Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Mehefin 2020
Amser:
09.30 -
11.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6348
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Ms Sarah Nason (Cynghorwr Arbenigol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(5)547 - Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)549 - Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn ei drafod ymhellach pan ddaw’r ymateb gan Lywodraeth Cymru i law.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020
O dan Reol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiad o fuddiant gan Suzy Davies AS.
Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth a gofynnodd am eglurhad ynghylch mater yn ymwneud â llety gweithwyr amaethyddol.
4.2 SL(5)540 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth.
Nododd y Cadeirydd sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor a drefnwyd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Mehefin, mewn perthynas â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020, fel y'u diwygiwyd.
5 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
5.1 WS-30C(5)160 - Rheoliadau Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 (Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.
6 Papur(au) i'w nodi
6.1 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE)
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr ohebiaeth
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a thrafododd y materion i'w cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a bydd yn trafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
10 SICM(5)28 - Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod maes o law.
11 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – briff gan gynghorydd arbenigol y Pwyllgor
Rhoddodd cynghorydd arbenigol y Pwyllgor gyflwyniad i'r Aelodau ynghylch y gwaith y mae wedi’i wneud fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor.
12 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf
Trafododd y Pwyllgor y papur briffio gan ymchwilwyr y Senedd.
Nododd yr Aelodau fod y cynghorwyr cyfreithiol wedi darparu eglurhad ynghylch Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020, fel y gofynnwyd yn y cyfarfod ar 18 Mai.